Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i gyflwyno moratoriwm ar Gynlluniau Datblygu Lleol yn yr ardaloedd hynny yr argymhellwyd y dylent fod yn rhan o ddau ranbarth dinesig newydd. Mae ‘Save our Capital Cardiff’ yn credu y byddai’n annoeth i gynghorau yn yr ardaloedd hynny baratoi cynlluniau arwyddocaol ar gyfer tai a seilwaith, sy’n cynnwys niweidio safleoedd tir glas mewn modd na ellir ei ddadwneud, cyn cael penderfyniad ynghylch gweithredu’n rhanbarthol.
Prif ddeisebydd: Neil John McEvoy
Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 2 Gorffennaf 2013
Nifer y llofnodion : 170